Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Mehefin 2018
Amser:
15.09 -
16.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4747
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Simon Jones, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Trafododd yr Aelodau y papur materion allweddol a gofynnodd bod drafft cychwynnol o argymhellion posibl yn cael ei baratoi er mwyn eu hystyried.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.2 Trafododd y Pwyllgor gynnwys y llythyr ar heriau digidoleiddio gydag Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol. Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, gofynnodd Aelodau bod y Clercod yn trafod y posibilrwydd o sefydlu grŵp rapporteur ynghyd ag Aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn.
4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, a Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru ar Wasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn
4.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon manylion am berfformiad prydlondeb y gwasanaeth awyr a nifer o weithiau y cafodd y gwasanaeth ei ganslo am resymau technegol o gymharu â pherfformiad y gwasanaeth o dan weithredwyr eraill ers 2014.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ofyn am fanylion y contract, pan y'i dyfernir.